Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 21 Tachwedd 2017

Amser y cyfarfod: 13.30
 


101(v4)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: Dyfodol Cadw

(30 munud)

</AI3>

<AI4>

4       Dadl: Mynd i’r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau

(60 munud)

NDM6559 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd sy’n cael ei wneud wrth fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, fel y’i tanlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg.

Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Rhagolwg

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod camddefnyddio sylweddau yn fater sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn hytrach na'n fater troseddol.

Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith:

a) bod adroddiad blynyddol 2017 ar strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, 'Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed' yn dangos y bu cynnydd yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol ac sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru;

b) bod nifer y bobl sy'n cwblhau triniaeth yn rhydd o sylweddau wedi gostwng; ac

c) bod llai o bobl yn dechrau triniaeth o fewn 20 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu cyfeirio na dwy flynedd yn ôl.

Gwelliant 3 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu capasiti gwasanaethau dadwenwyno haen 4 i gleifion mewnol a gwasanaethau adsefydlu preswyl, gan gydnabod nad yw hyn yn ddewis amgen i wasanaethau sy'n canolbwyntio ar adfer o fewn y gymuned.

</AI4>

<AI5>

5       Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017

(15 munud)

NDM6568 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2017.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI5>

<AI6>

6       Cynnig i amrywio’r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

(5 munud)

NDM6552 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) adrannau 2 - 6
b) Atodlen1
c) adrannau 7 - 12
d) adran 1
e) Teitl Hir

Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

</AI6>

<AI7>

7       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI7>

<AI8>

8       Dadl: Cyfnod 3 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

(180 munud)

Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y cafodd yr adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt eu rhestru yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a gytunwyd gan y Cynulliad ar 14 Tachwedd 2017.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

1. Cyngor a gwybodaeth
1, 4, 5, 28, 6, 7, 8, 9, 14, 15

2. Rhoi sylw dyledus i gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig
26, 2A, 2B, 2C, 2D, 2E, 2F, 2G, 2, 3A, 3B, 3C, 3D, 3E, 3F, 3, 25

3. Gwelliannau canlyniadol a mân welliannau drafftio
27, 32, 44, 45, 48, 49, 50, 51, 52, 53,

4. Llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol
54, 56, 57, 58, 61

5. Hawl i gynlluniau datblygu unigol
29, 30, 31, 13, 33, 34, 35, 47

6. Y diffiniad o blant sy’n derbyn gofal
10

7. Y Tribiwnlys Addysg
11, 19, 20, 42, 46, 21

8. Cadw’n gaeth am resymau iechyd meddwl
62, 63

9. Codi tâl o dan ddarpariaethau Rhan 2
36, 37, 59, 41, 60

10. Dysgu seiliedig ar waith
16, 22, 23, 24

11. Addysg Uwch mewn sefydliadau addysg bellach
38, 43

12. Adolygiadau Awdurdodau Lleol
39, 40

13. Darpariaeth Gymraeg
64, 65, 66

14. Gwasanaethau eirioli
17, 18

15. Personau ifanc nad oes ganddynt alluedd
67

Dogfennau Ategol
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o Welliannau wedi’u didoli
Grwpio Gwelliannau

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 22 Tachwedd 2017

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>